Colwyn Bay THI

Ymweliad Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Leeds

January 10, 2017

Ddydd Iau 5 Ionawr, aeth staff Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn i Leeds ar gyfer cyfarfod Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd (THI) rhanbarthol.

Roedd hwn yn gyfle gwych i glywed am fentrau THI sy’n digwydd ar draws Cymru a gogledd Lloegr, clywed am broblemau a gafwyd a beth a ddysgwyd ganddynt, a rhannu enghreifftiau o arfer da.

Mae gan Leeds 3 chynllun, THI Armley lle cynhaliwyd y cyfarfod hwn, ac mae’r ddau arall yn Chapeltown a Lower Kirkgate.

Roedd y cyfarfod hwn yn nodi diwedd cynllun THI Armley, gyda phlac yn cael ei ddadorchuddio i nodi cwblhau’r prosiect olaf.

Roedd hefyd cyfle i gerdded o amgylch ardal THI Armley ac edmygu’r gwaith a gwblhawyd ar amryw eiddo. Mae Armley, fel Bae Colwyn, wedi gweld eiddo yn cael ei esgeuluso dros y blynyddoedd ynghyd â blaen siopau amhriodol yn cael eu gosod.

Mae cynllun THI Armley wedi gallu gwyrdroi rhai o’r addasiadau, ac adfer adeiladau, a gwelsom enghreifftiau da o flaen siopau traddodiadol eu golwg, ac eiddo critigol a gafodd fywyd newydd drwy fesurau fel clirio llystyfiant, trwsio’r to ac ailadeiladu waliau.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi