Colwyn Bay THI

Beth Yw MTT?

Beth yw Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd?

Manylion Mentrau Etifeddiaeth Trefwedd

Mae’r Loteri Treftadaeth, Llywodraeth Cymru, Cadw ac Awdurdodau Lleol wedi datblygu arfer da o weithio mewn partneriaeth i gefnogi adfywiad yng nghanol trefi drwy sefydlu sawl menter treftadaeth trefwedd yn y wlad, yn ogystal â phrosiectau cysylltiedig i ymgysylltu â’r gymuned.

Ers sefydlu’r Loteri Genedlaethol yn 1994, mae’r rhaglen ariannu Treftadaeth Loteri wedi bod yn cefnogi cynhaliaeth, cadwraeth, a threftadaeth lleoedd drwy’r DU.

Yn fwy diweddar mae fframwaith Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn mynnu o dan ei ganlyniadau cenedlaethol Cymunedau Llewyrchus: “amgylchedd naturiol a hanesyddol wedi ei reoli’n dda sy’n cyfrannu at arwahanrwydd tirlun ac aneddiadau Cymru gan gynnal, cadw a rhoi gwerth ar gymeriad treftadaeth a hanesyddol.”

Rhaglen gyllido yw Treftadaeth Treflun (y Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd gynt) sy’n cael ei ddechrau gan Dreftadaeth y Loteri i gyflawni gwelliannau i’r amgylchedd hanesyddol adeiledig.  Yn aml mae’n cynnwys partneriaid cyllido er mwyn creu pot o arian o faint sylweddol (math o gronfa gyffredin) er mwyn cyflawni prosiectau corfforol a chefnogi adfywiad cymunedol. Nod cynlluniau Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd yw cyflawni cadwraeth gynaliadwy mewn ardaloedd trefol hanesyddol drwy godi safonau lle mae’r farchnad wedi methu gwneud hynny. Y bwriad yw atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn trefluniau hanesyddol drwy greu llefydd atyniadol, llewyrchus a diddorol lle bydd pobl eisiau byw, gweithio ymweld a buddsoddi yn y dyfodol.

Mae’r adfywio cenedlaethol (Fframwaith Llewyrchus a Llawn Addewid) Treftadaeth y Loteri ac eiddo CADW wedi gweithio’n dda gyda’i gilydd, gydag enghreifftiau da o waith wedi ei gyflawni ar ganlyniadau rhaglenni cyfunol ar lefel lleol, fel arfer yn cael eu rheoli gan bartneriaethau lleol, ac yn y rhan fwyaf o achosion, awdurdodau lleol sy’n gweinyddu’r gronfa ‘gyffredin’.

Erbyn mis Medi 201, roedd cyfanswm o 22 tref yng Nghymru wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid Cynllun Etifeddiaeth treftadaeth, gyda chyfanswm o £27,205,900 un ai’n cael ei wario neu ei ddyrannu yn y wlad. Roedd llawer o’r rhain wedi symud ymlaen i ail gam gwaith. Fel gweinyddwyr a phartneriaid darparu’r gronfa gyffredin, mae’r awdurdod lleol fel arfer yn sefydlu cronfa grant ar gyfer perchnogion eiddo unigol i ddatblygu prosiectau ar eiddo yn aml o fewn ardal gadwraeth benodol. Canolbwynt allweddol ymdrechion adfywio yng Nghymru fu cefnogi’r stryd fawr draddodiadol a chanol trefi. Caiff hyn ei adlewyrchu hefyd yn y fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, sy’n blaenoriaethu ‘canol trefi sy’n gweini trefi o’r unfed ganrif ar hugain’

Cydnabyddir yn y fframwaith mai canol trefi yw ‘curiad calon ein cymunedau; dyma lle mae pobl yn byw lle mae pobl yn siopa a lle mae pobl yn gweithio’.

Mae’r weledigaeth hon yn cael ei rhannu gyda Loteri Treftadaeth sydd wedi sefydlu’r gronfa er mwyn ‘cynorthwyo i wrthdroi’r dirywiad yn ein hoff drefluniau hanesyddol… I greu lleoedd atyniadol, llawn addewid lle mae pob am fyw, gweithio a buddsoddi ynddynt’.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi