November 10, 2015
Daeth ‘Florence Nightingale’ o’r Ail Ryfel Byd yn ôl i Fae Colwyn yn ddiweddar i hel atgofion. Roedd Catalina Bateman, 92 oed, yn arfer aros yn y dref yn ystod ei phlentyndod – ac roedd ei hymweliad ddiwethaf dros 70 mlynedd yn ôl.
Teithiodd Catalina i Fae Colwyn gyda’i chefnder, Michael Seel, cyn-ddisgybl ysgol Rydal rhwng 1948-52, a’r prif reswm yr oedd Catalina yn arfer dod i aros yn y dref.
“Mae llawer o bethau wedi newid ond mae llawer o bethau yn dal i fod yn gyfarwydd o pan oeddwn yma yn blentyn,” dywedodd Catalina. “Y tro diwethaf i mi ddod i Fae Colwyn oedd ym 1939 ychydig cyn i mi ddechrau fy hyfforddiant nyrsio ym Manceinion pan oeddwn yn 16 oed.”
Cymerodd Catalina seibiant o’i thaith i fwynhau cinio ym mhrosiect Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, Yr Orsaf, a adnewyddwyd yn ddiweddar, ar ben Ffordd yr Orsaf, Ffordd Abergele.
Tra roedd hi yno, bu’n hel atgofion am y lleoedd roedd hi’n arfer ymweld â nhw pan oedd yn blentyn.
“Yr wyf yn cofio’r sinema Cosy yn dda iawn oherwydd roeddem yn arfer mynd yno i wylio’r ffilmiau du a gwyn. Roedd yn well gennym hon na’r sinema fawr [Princess Cinema] gan ei bod yn fach ac yn llawer mwy cartrefol gyda seddau gwirioneddol foethus. Ond, rwy’n cofio mai’r un gweithiwr taflunydd oedd yn y ddau sinema, ac roedd yn arfer rhedeg rhwng y ddau!”
Roedd tad Catalina yn dod o Ynysoedd y Falkland yn wreiddiol a daeth i Brydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf lle cyfarfu ei mam. Ar ôl y rhyfel, symudodd y ddau i Chile lle cafodd Catalina ei geni a dychwelodd y teulu i Fanceinion pan oedd yn ferch ifanc.
“Roedd fy ewythr yn brif syrfëwr yn y Fflint, a oedd bryd hynny yn ymestyn ar hyd yr arfordir. Roeddwn yn arfer ymweld â thŷ fy modryb yn Llanrwst ac mae’n rhaid i chi yrru drwy Fae Colwyn i gyrraedd yno.”
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl