Colwyn Bay THI

Am MTT

ADFER GEM FICTORIANAIDD

Pan ymwelodd D. R. Thomas â’r safle yn 1857 , yr unig adeiladau a welodd oedd un bwthyn a thollborth. Adeiladwyd Bae Colwyn gan ddefnyddio deunyddiau, technoleg a chrefftwaith gorau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i sefydlu cyrchfan wyliau gyffrous mewn llecyn hardd ar yr arfordir. Strydoedd eang o adeiladau hardd tal gyda blaenau siopau gwych a swyddfeydd mawr prysur â fflatiau uwch eu pennau, a chanopïau haearn bwrw addurnedig a chelfi stryd, y steil Fictorianaidd gorau.

Mae Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn yn rhaglen adfywio pum mlynedd a arweinir gan gadwraeth a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth Y Loteri, Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Cadw. Nod rhaglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri yw gwarchod ac adfywio ardaloedd cadwraeth sy’n dioddef dirywiad economaidd. Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng 2012 – 2017 ac mae’n rhan o gyfres ehangach Bywyd y Bae o fentrau adfywio ar gyfer ardal a glan môr Bae Colwyn.

Prif nod y cynllun yw ei gwneud yn bosibl i gael defnydd hyfyw parhaus o’r adeiladau sy’n ffurfio cymeriad pensaernïol arbennig Bae Colwyn. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i atgyweirio adeiladau hanesyddol ac i wneud defnydd unwaith eto o adeiladau adfeiliedig ac adeiladau hanesyddol nad ydynt wedi’u defnyddio ddigon. Bydd cyfanswm “cronfa gyffredin” o £2.7 miliwn gan y cynllun o grantiau a fydd ar gael tuag at gostau gwaith adfer, cadwraeth a gwella ar adeiladau cymwys. Bydd yr holl adeiladau hanesyddol o fewn ardal Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn yn gymwys am grant fodd bynnag bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i’r adeiladau hynny y nodwyd fel ‘hanfodol’ neu ‘blaenoriaeth’

Y 4 prosiect Hanfodol sydd i’w targedu fel rhan o Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn yw:

  • Tafarn ‘The Judge and Jury’ ar Ffordd yr Orsaf
  • Tafarn ‘The Central’
  • A & A Cash and Carry
  • Siop Nwyddau Haearn Matthews and Sons

Mae gwaith grant cymwys yn cynnwys:

  • Atgyweiriadau strwythurol ac allanol i adeiladau hanesyddol sy’n cael eu defnyddio
  • Atgyweirio ac addasu ar gyfer gwneud defnydd newydd o adeiladau hanesyddol gwag neu sy’n rhannol wag
  • Gwaith adfer dilys i nodweddion pensaernïol, gan gynnwys blaenau siopau hanesyddol

Mae mentrau cefnogi ychwanegol yn cynnwys:

Mae rhaglen Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn hefyd yn cynnwys elfen gref o ymgysylltu â’r gymuned sy’n ceisio sefydlu a chefnogi grwpiau treftadaeth gweithredol yn y dref, ac ehangu apêl treftadaeth o fewn cymuned. Mae hyn yn cael ei wneud drwy gyfres o fentrau ychwanegol

  • Ymwybyddiaeth sgiliau treftadaeth gyda’r nod o wella arbenigedd adeiladu traddodiadol a chodi ymwybyddiaeth o faterion a thechnegau cadwraeth penodol
  • Mentrau cymunedol i gynorthwyo i annog diddordeb mewn treftadaeth a’i werth gan gynnwys digwyddiadau wedi eu cynllunio i ddangos synnwyr o falchder yn y dref a gwella nifer yr ymwelwyr â’r ganolfan fasnachol.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi