Ar 28 Chwefror cynhaliwyd sesiwn olaf Bae Colwyn: Ddoe a Heddiw gan Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, mewn partneriaeth a’r tîm 5 Awgrym Llesol.
Cawsom gyfle i edrych yn ôl ar y pethau sydd wedi’u cyflawni ym Mae Colwyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac ar lyfr lloffion y prosiect.
Rhoddodd Katherine Dutta, Cynorthwyydd Prosiect Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, gyflwyniad gyda detholiad o luniau ac atgofion ysgrifenedig a roddwyd gan drigolion. Roedd yna atgofion am Eglwys Sant Paul a swyddi cyntaf ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed yn y pumdegau.
Bydd tîm 5 Awgrym Llesol yn ailddechrau cynnal sesiynau Bae Colwyn: Ddoe a Heddiw fis Ebrill. Cysylltwch â’r tîm drwy dudalen we Lles Cymunedol y Cyngor:
http://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Leisure-sport-and-health/Community-wellbeing/Form-Community-Wellbeing-Enquiry.aspx
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl