December 9, 2013
Cymerodd cangen Bae Colwyn o Sefydliad Y Merched ran yn y cynllun Ffenestri Siop Gwag yn ddiweddar, gan addurno siop ffenest 15 Ffordd Abergele, yr hen siop Eternal Flame.
Mae ffenest y siop mewn lleoliad dethol, ar y brif ffordd drwy’r dref ac mae nifer o bobl, ceir a bysiau yn pasio bob dydd.
Dewisodd Sefydliad y Merched thema Siopau Gwag i gefnogi ymgyrch genedlaethol y grŵp sef Arbedwch ein Strydoedd (Save our Streets), sydd a’r nod o annog pobl i gefnogi eu siopau lleol a gwyrdroi’r patrwm o siopau gwag yn ymddangos ar ein prif strydoedd.
Roedd eu harddangosfa ffenest yn cynnwys posteri ymgyrch cryfion a gwybodaeth ar siopau gwag o amgylch Bae Colwyn, gydag addurniadau Nadolig hefyd.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl