Colwyn Bay THI

Ffair Bensiynwyr 2017

February 8, 2017

Ddydd Gwener 10 Chwefror bydd David Jones AS yn cynnal y drydedd Ffair Bensiynwyr, sef digwyddiad blynyddol lle mae sefydliadau a grwpiau lleol yn dod at ei gilydd i roi cyfle i bobl ar eu pensiwn, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr ddysgu am yr hyn sydd ar gael yn lleol.

Cynhelir y Ffair Bensiynau yn Eglwys St Paul, Bae Colwyn o 11am tan 3pm.

Mae Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn wedi mynychu’r digwyddiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’n edrych ymlaen at fod yn y digwyddiad eleni. Bydd gennym wybodaeth am waith yr ydym wedi’i wneud yn y dref, digwyddiadau yr ydym yn eu cynnal a gallwch weld hen ffotograffau o Fae Colwyn yn y gorffennol ac efallai y gallech hefyd ychwanegu eich atgofion eich hun at y casgliad.

Grwpiau eraill a fydd yn mynychu’r digwyddiad fydd Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Ar Bopeth a Chartrefi Conwy.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: http://www.davidjonesmp.co.uk/mp-holds-pensioners-advice-fair/

Pensioners’ Fair 2017 Poster

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi