Colwyn Bay THI

Ein Hatgofion

January 26, 2016

Yn Ionawr 2016, lansiodd Menter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn brosiect Llyfr Lloffion Bae Colwyn, a fydd yn edrych ar ddod â phobl at ei gilydd i gofio gorffennol Bae Colwyn; bydd y prosiect hefyd yn casglu atgofion ysgrifenedig a lluniau i’w cadw i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Cynhaliwyd y lansiad yn nhafarn The Station, Bae Colwyn sy’n brosiect blaenoriaeth Menter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn ac roedd nifer dda yn bresennol yno. Cawsom fwynhad yn sgwrsio gyda phobl am eu hatgofion o’r dref dros baneidiau o de a choffi.

Mae’r digwyddiad hwn y cyntaf o gyfres o foreau coffi ‘Bae Colwyn Ddoe a Heddiw’ a gynhelir yn nhafarn The Station. Mae’r rhain yn cael eu cynnal mewn partneriaeth gyda 5 Awgrym Llesol; bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am a 12 canol dydd, bydd pawb sy’n galw heibio yn cael paned o de neu goffi am ddim, a chynhelir y bore coffi ar y dydd Mawrth olaf o’r mis, heblaw un mis Rhagfyr fydd yn cael ei gynnal ar y dydd Mawrth, 20 Rhagfyr.

scrapbook-launch

Lluniau chwith i’r dde: Rita Stewart (Landlord ‘The Station’), Delyth Philipps (5 Awgrym Llesol), Katherine Dutta a Judi Greenwood (Menter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn); Cyng. Glenys Baker (Cefnogwr Treftadaeth), Cyng .Chris Hughes, Jayne Neal (5 Awgrym Llesol).

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi