Colwyn Bay THI

‘Conwy Naturiol’ ar fin agor!

August 22, 2016

Mae Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn yn falch o gyhoeddi lansiad menter brand newydd: ‘Conwy Naturiol’! Mae’r prosiect yn cynnwys defnyddio’r Siop Dros Dro yn 24 Ffordd yr Orsaf, a bydd cynhyrchwyr yn derbyn tenantiaeth am 4 mis; disgwylir i’r siop newydd agor ar Ffordd yr Orsaf ar 9 Medi.

Mae ‘Conwy Naturiol’ yn gydweithrediad rhwng Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, Cymunedau yn Gyntaf, Tîm Datblygu Gwledig a chynhyrchwyr bwyd lleol.

Bydd y siop yn gwerthu cynnyrch a wnaed yn lleol o fewn Sir Conwy, gan gynnwys teisen frau, cynhwysion cacennau, cacennau, ffrwythau a llysiau ffres a chigoedd, ynghyd â chwrw a jin a bwydydd eraill. Disgwylir gweld pwmpenni adeg Calan Gaeaf a phwdinau Nadolig ym mis Rhagfyr hefyd.

O ddechrau mis Medi, bydd pedwar ar ddeg o gynhyrchwyr sy’n deillio o Sir Conwy ac yn cynhyrchu bwyd a diod yn y sir, yn uno a gweithio gyda’i gilydd i amlygu, arddangos a gwerthu eu cynnyrch. Bydd rhan fwyaf o’r cynhyrchwyr yn gofalu am y siop ar sail rota ond bydd y cigyddion yno’n llawn amser gan fod yn rhaid iddynt drin cig amrwd. Bydd y siop ar agor bob dydd Gwener a dydd Sadwrn (09:00 – 17:00) tan ddiwedd mis Rhagfyr.

Dywedodd Rhys Evans, Conwy Cynhaliol: “Trafodwyd y syniad yn wreiddiol ym mis Mehefin ac roedd y cynhyrchwyr, sydd oll yn aelodau o Fforwm Fwyd Conwy, yn frwdfrydig iawn.

Pe bai’r model busnes yn gweithio, gellir ymestyn y cysyniad i drefi eraill yn y sir pan fo eiddo manwerthu gwag ar gael.”

Drwy weithio gyda Chynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn a sefydliadau partner eraill, bydd y cynhyrchwyr yn rheoli’r siop yng nghanol y dref i werthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid heb golli incwm i drydydd parti, a bydd modd i siopwyr sy’n prynu eitemau o’r siop gefnogi’r economi leol.

Mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau lleol ac annog mwy o fwytai i werthu cynnyrch lleol, byddwn yn gwahodd bwytai a gwestai ar draws y sir i ddod i gyfarfod â’r cynhyrchwyr a blasu’r bwyd.

Bydd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn torri’r rhuban ar y diwrnod agoriadol.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi