Colwyn Bay THI

Mae’r gwyliau’n dod i Fae Colwyn!

November 10, 2015

Coca-Cola-Truck-1

Mae’r Nadolig yn argoeli i fod yn un arbennig iawn ym Mae Colwyn eleni gan fod y lori Coca-Cola yn dod i’r dref! Dewch i fwynhau’r cyfle hwn na ellir ei golli gyda theulu a ffrindiau o hanner dydd tan 8pm ddydd Mercher 2 Rhagfyr.

Bydd y lori yn galw ym Mae Colwyn ar ben Ffordd yr Orsaf / Ffordd Abergele fel rhan o’i thaith 46 lleoliad yn y DU a bydd wedi’i goleuo mewn lleoliad o baradwys gaeafol, yn union fel yr hysbyseb. Cewch hefyd fwynhau Coke oer wrth wrando ar synau côr yn canu caneuon Nadolig poblogaidd.

Bydd digon o adloniant llawn hwyl AM DDIM i’r teulu yn y digwyddiad, gan gynnwys ffyn candi ar stiltiau, milwyr tegan a phicsis yn sglefrolio, a phob un ohonynt yn gorymdeithio o amgylch y goeden Nadolig ar Ffordd yr Orsaf. Bydd hefyd ymweliad gan hoff gymeriadau y ffilm Disney, Frozen, sef Elsa ac Olaf! Ac wrth gwrs, bydd y dyn ei hun, Siôn Corn, yn cyrraedd ar hen siarabáng yng nghwmni ei geirw.

Dywedodd Judi, Rheolwr Prosiect Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn: “Rydym yn falch iawn bod y lori Coca Cola yn ymweld â Bae Colwyn eleni. Mae’n gyfle gwych i bobl ddod i Fae Colwyn a gweld beth sydd ganddi i’w gynnig.”

Yn ogystal â Chyngor Conwy, Cyngor y Dref, Cymunedau yn Gyntaf, y Siambr Fasnach, y Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd a busnesau lleol i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu digwyddiad i’r teulu i bawb ei fwynhau, mae tocyn Panto teulu hefyd ar gael i’w ennill am y selfie Siwmper Nadolig gorau sy’n cael ei uwch lwytho (cadwch olwg am yr wybodaeth ddiweddaraf).

Bydd y rhan fwyaf o weithgareddau yn cael eu cynnal o 4pm i roi’r cyfle i chi gasglu’r plant o’r ysgol.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch @digwyddiadconwy ar Facebook a/neu Twitter.

Mae’r trefnwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn disgwyl gweld llawer iawn o bobl yno drwy gydol y dydd, felly maent yn annog y rhai sy’n byw yn ddigon agos i adael y car gartref a cherdded yno gyda’r teulu.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi