Colwyn Bay THI

Stryd Fawr Arfordirol Prydain Fawr 2014

November 8, 2014

Mae Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn yn falch o gyhoeddi fod Bae Colwyn wedi ennill categori Stryd Fawr Arfordirol y Flwyddyn cystadleuaeth Stryd Fawr y Flwyddyn 2014.

Ymwelodd beirniaid â’r dref ychydig fisoedd yn ôl, a chawsant eu tywys o amgylch Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, Cymunedau yn Gyntaf a sefydliadau lleol eraill.

Dangoswyd mentrau allweddol iddynt oedd wedi eu sefydlu er mwyn gwella’r dref, gan gynnwys cynlluniau fel y Siop Dros Dro, ac adeiladau a ailwampiwyd gan Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, ac roedd modd hefyd arddangos yr amrywiaeth o bartneriaethau sydd wedi eu ffurfio er mwyn cynnal digwyddiadau a mentrau amrywiol ym Mae Colwyn.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi