Colwyn Bay THI

Girls get digging into Girlguiding’s local past

September 15, 2015

Mae Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn wedi gweithio gydag uned Geidio Browni lleol i ddatblygu adnodd ar gyfer grwpiau geidio a’r bathodyn y gallan nhw ei ennill unwaith maen nhw wedi cwblhau’r gweithgareddau.

Dechreuwyd y prosiect gan Katie Dutta, arweinydd Browni lleol, fel rhan o elfen Gweithredu yn y Gymuned Gwobr Geidio’r Frenhines, y dyfarniad geidio uchaf y gellir ei ennill. Gwelodd nad oedd pecyn gweithgareddau ar gael i helpu grwpiau ddysgu am dreftadaeth a hanes geidio lleol, felly penderfynodd greu gweithgareddau a’u rhoi i gyd mewn pecyn adnoddau a dylunio bathodyn Her Treftadaeth Geidio i gyd-fynd â nhw.

Gall y merched greu awyrennau ambiwlans awyr eu hunain drwy ailgylchu deunyddiau, rhoi cynnig ar rysáit o gyfnod y rhyfel, dysgu am iwnifformau’r gorffennol a chofnodi eu treftadaeth eu hunain ar gyfer geidiau’r dyfodol.

Rhoddwyd pecyn Her Treftadaeth Geidio ar brawf gan 3ydd Brownis Hen Golwyn, a bu iddyn nhw fwynhau’r prosiect yn arw a chreu capsiwl amser – a bydd modd iddyn nhw wedyn hel atgofion pan fydd yn cael ei agor.

Mae’r bathodynnau hefyd wedi’u hanfon i ben arall y byd! Gydag archebion wedi’u derbyn gan yr Alban ac Awstralia!

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi