Colwyn Bay THI

Siop Dros Dro

Mae Bae Colwyn yn dref o fasnachwyr annibynnol sy’n cynnig pob math o nwyddau a gwasanaethau. Rydym yn credu mai dyna beth sy’n gwneud ein tref mor unigryw. Ond, fel llawer o drefi, mae gennym rai siopau gwag yr hoffem eu gweld yn cael eu llenwi. Rydym hefyd yn sylweddoli bod angen i ni greu rheswm cryf i bobl ddod a siopa yn y dref. Mae siopwyr heddiw yn fwy dewisol ac yn fwy soffistigedig nag yr oeddent. Maent yn mynnu amrywiaeth a chyffro. Maent am weld ystod eang o siopau, bariau coffi arbenigol a chaffis. Mae siopa yn dod yn brofiad, nid dim ond yn anghenraid.

Dyma beth yw pwrpas y prosiect Siop Dros Dro. Mae wedi cael ei greu er mwyn helpu i feithrin busnesau newydd, annibynnol, helpu i lenwi’r siopau gwag yng nghanol y dref a chreu gofod sy’n gyffrous ac yn wahanol. Ac mae’n gweithio.

Wedi ymuno â Chymunedau yn Gyntaf, erbyn hyn mae gan Fenter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn dair siop sydd wedi cael eu llenwi gan fusnesau newydd lleol. O wasanaethau ffotograffiaeth i droellwyr gwlân prin a rhoddion unigryw a wnaed â llaw. Mae pob busnes sydd wedi dod drwy’r Siop Dros Dro wedi dysgu llawer am fanwerthu a sut i redeg busnes.

Mae’r prosiect Siop Dros Dro hefyd wedi cefnogi ystod eang o ddigwyddiadau a mentrau yn y dref gan gynnwys Gŵyl Buskival lle defnyddiwyd ein siop fel stiwdio recordio ar gyfer cantorion a pherfformwyr talentog lleol. Rydym hefyd wedi cynnal digwyddiad chwarae yn y Siop Dros Dro mewn partneriaeth â Chymunedau’n Gyntaf lle sefydlwyd lle chwarae rhyngweithiol am ddim yn ystod gwyliau’r haf a gwahoddwyd rhieni i ddod â’u plant a darganfod ffyrdd gwahanol o chwarae a chreu.

Rydym wedi gweithio gyda llawer o sefydliadau eraill hefyd, gan gynnwys Coleg Llandrillo, Clwb Pêl-droed Bae Colwyn a Siambr Fasnach Colwyn, CAIS a llawer o rai eraill. Rydym yn credu mai’r syniad hwn o undod a chydweithredu sy’n gwneud y Siop Dros Dro yn cymaint o lwyddiant. Mae dwyn ynghyd y gymuned fusnes a’r gymuned breswyl yn helpu i wneud y gymuned yn gryfach a darparu gweledigaeth ar y cyd. Pan enillodd Bae Colwyn wobr Stryd Fawr Arfordirol y Flwyddyn yn 2015 nododd y beirniaid bod gwaith Menter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn yn rheswm allweddol dros gyflwyno’r wobr i’r dref. Ydyn ni’n falch o’r ffaith hon? Wrth gwrs ein bod ni.

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda thîm Bywyd y Bae i adeiladu ar eu sylfeini cadarn o greu adfywiad a hunaniaeth. Mae miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad wedi cael ei arllwys i mewn i Fae Colwyn er mwyn helpu i’w wneud yn lle y mae pobl am fyw, gweithio ac ymweld. Rydym wedi dod yn bell iawn tuag at y nod hwnnw ac rydym yn sylweddoli bod gennym ffordd bell i fynd eto, ond rydym yn gwneud cynnydd da.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi