Colwyn Bay THI

THI Bae Colwyn yn dathlu pum mlynedd o lwyddiannau

March 28, 2017

Cynhaliodd Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn ei ddigwyddiad olaf ddydd Mawrth 28 Chwefror i ddathlu ei lwyddiannau fel daeth y prosiect i ben.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Station Court, sef prosiect adeilad cyntaf THI Bae Colwyn a gwblhawyd; cafodd yr adeilad blaenoriaeth rhestredig Gradd II ei newid o hen dŷ tafarn yn gaffi a bistro gydag ystafelloedd cyfarfod o ansawdd uchel a gofod swyddfeydd yn y lloriau uwch ei ben.

Cymerodd THI Bae Colwyn fantais lawn o’r gofod hwn, gan roi cyflwyniad i fynychwyr a dangos yr adeiladau roeddent wedi eu hailwampio , digwyddiadau a mentrau yr oeddent wedi eu cynnal gyda phartneriaethau, a hefyd arddangos gwaith o wahanol brosiectau, yr oedd y mynychwyr yn gallu pori trwyddynt wrth fwynhau’r lluniaeth.

O 2012 i 2017, cwblhaodd THI Bae Colwyn ddau brosiect critigol, Station Court a thafarn The Station, a gafodd ei drawsnewid o gen dŷ tafarn i leoliad llawn croeso sy’n gweini bwyd o ansawdd uchel, a phrosiectau blaenoriaeth fel 3-5 Ffordd Conwy, sy’n gartref i Dorothy’s Florist a Boppers, lle gosodwyd blaen siop newydd a rhoddwyd gofod swyddfa newydd lle y bu unwaith le gwag.

Cynhaliodd Bae Colwyn fentrau newydd fel y Siop Dros Dro ar y cyd â Chymunedau yn Gyntaf, a dyfodd o’i eiddo gwreiddiol yn 24 Ffordd yr Orsaf i gynnwys gofod profi-gwerthu dros dro yn 22 Ffordd yr Orsaf a 20 Ffordd Conwy lle cafodd The Lost Sheep Company gyfle i ymestyn a datblygu eu busnes yn llawn o fusnes newydd i siop adnabyddus sy’n gwerthu cynnyrch gwau a gwlân unigryw.

Helpodd THI Bae Colwyn sefydlu’r digwyddiad Nadoligaidd cyntaf yn 2014, sydd bellach yn ddigwyddiad blynyddol, a hefyd helpodd greu gweithdy ffrâm bren draddodiadol ar gyfer ysgolion gyda The Natural Building Centre a Chymunedau yn Gyntaf, sy’n gadael i ddisgyblion adeiladu eu hystafell ddosbarth eu hunain wrth ddysgu am grefftau traddodiadol ochr yn ochr ag elfennau o’u gwersi beunyddiol megis mathemateg.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi