Colwyn Bay THI

Tryc Coca Cola yn cyrraedd Bae Colwyn!

December 2, 2015

Coca-Cola-Truck-1

Heddiw, roedd Bae Colwyn yn croesawu’r Tryc Coca Cola sy’n ymweld â threfi ar draws y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Yn ystod y dydd cafodd pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd gyfle i ddod i weld y cerbyd eiconig a mwynhau ysbryd y Nadolig a chael tun o Coca Cola am ddim tra’r oedden nhw yno.

Roedd yna gerddwyr ar stiltiau yn cynnig adloniant i’r gwylwyr, cyfle i gael llun gyda’r tryc Coca Cola, reidiau am ddim yn y ffair i’r plant eu mwynhau. Roedd nifer o siopau lleol hefyd yn agored yn hwyr, ynghyd â stondinau bwyd; roedd yr holl agweddau hyn yn cyfrannu at awyrgylch gwych a thyrfa dda o bobl yn mwynhau’r dref min nos.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi