January 15, 2016
Mae diwrnod gwybodaeth wedi cael ei drefnu yng Nghanolfan Siopa’r Bay View ddydd Sadwrn 16 Ionawr, 9.30am-4.30pm lle cewch gyfle i weld manylion cynigion drafft o ddyluniad adeilad y swyddfa newydd arfaethedig ym Mae Colwyn ac i fynegi eich barn cyn y caiff cais cynllunio ei wneud. Bydd aelodau o’r tîm datblygu ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.
Bydd yr adeilad swyddfa arfaethedig a fydd wedi’i leoli yn Ffordd Conwy, Coed Pella Road a Lansdowne Road, yn ganolfan ar gyfer oddeutu 750 o staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Bydd cais cynllunio ar wahân ar gyfer maes parcio newydd ym Mharc Eirias yn cael ei gyflwyno ar wahân
Yn ogystal â chaniatáu’r Cyngor i gau nifer o’i hen adeiladau swyddfa aneffeithlon, bydd y prosiect yn creu rhagor o fewnfuddsoddiad i Fae Colwyn. Ar ôl cwblhau’r adeilad swyddfa newydd yn ystod haf 2018, bydd gwaith yn dechrau i ailddatblygu safle’r Swyddfeydd Dinesig. Fodd bynnag, bydd yr ailddatblygiad yn destun cais cynllunio ar wahân yn ddiweddarach.
Os nad ydych yn gallu dod i’r arddangosfa, bydd y cynlluniau drafft ar gael i’w gweld ar-lein yn www.howplanning.com/consultations o ddydd Llun 18 Ionawr ymlaen, lle cewch gyflwyno eich sylwadau ar-lein.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl