Colwyn Bay THI

Adeilad Swyddfa Newydd Arfaethedig

January 15, 2016

Conwy County Borough Council's new office accommodation

Mae diwrnod gwybodaeth wedi cael ei drefnu yng Nghanolfan Siopa’r Bay View ddydd Sadwrn 16 Ionawr, 9.30am-4.30pm lle cewch gyfle i weld manylion cynigion drafft o ddyluniad adeilad y swyddfa newydd arfaethedig ym Mae Colwyn ac i fynegi eich barn cyn y caiff cais cynllunio ei wneud.  Bydd aelodau o’r tîm datblygu ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.

Bydd yr adeilad swyddfa arfaethedig a fydd wedi’i leoli yn Ffordd Conwy, Coed Pella Road a Lansdowne Road, yn ganolfan ar gyfer oddeutu 750 o staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Bydd cais cynllunio ar wahân ar gyfer maes parcio newydd ym Mharc Eirias yn cael ei gyflwyno ar wahân

Yn ogystal â chaniatáu’r Cyngor i gau nifer o’i hen adeiladau swyddfa aneffeithlon, bydd y prosiect yn creu rhagor o fewnfuddsoddiad i Fae Colwyn.  Ar ôl cwblhau’r adeilad swyddfa newydd yn ystod haf 2018, bydd gwaith yn dechrau i ailddatblygu safle’r Swyddfeydd Dinesig. Fodd bynnag, bydd yr ailddatblygiad yn destun cais cynllunio ar wahân yn ddiweddarach.

Os nad ydych yn gallu dod i’r arddangosfa, bydd y cynlluniau drafft ar gael i’w gweld ar-lein yn www.howplanning.com/consultations o ddydd Llun 18 Ionawr ymlaen, lle cewch gyflwyno eich sylwadau ar-lein.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi