December 10, 2014
Ym mis Rhagfyr 2014, gweithiodd Menter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn gyda Thîm Tref Bae Colwyn, Cymunedau yn Gyntaf a Cherddoriaeth a Ffilm Gymunedol Tape i gynnal Gŵyl Gyfnos Bae Colwyn.
Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, gyda llawer o deuluoedd yn ymgynnull ar Ffordd yr Orsaf a nifer o blant yn cael peintio eu hwynebau am ddim ac yn mwynhau ymweliadau gan gymeriadau eira a gweithgareddau crefft y tu mewn a’r tu allan i’r Siop Dros Dro yn 24 Heol yr Orsaf.
Roedd y siopau a’r caffis ar agor yn hwyr, ac roedd yna hefyd sinema dros dro yn dangos ffilmiau Nadolig poblogaidd.
Roedd yna garolwyr a cherddorion lleol yn diddanu’r torfeydd ar Ffordd yr Orsaf. Roedd yna hefyd amrywiaeth o stondinau gan entrepreneuriaid ifanc yn ogystal â marchnad grefft dan do.
Mae Gŵyl Gyfnos 2015 eisoes yn cael ei threfnu, a bydd yn cael ei chynnal ddydd Iau 3 Rhagfyr.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl