January 10, 2014
Ymunodd Menter Treftadaeth Treflun (THI) Bae Colwyn gyda Thîm Tref Bae Colwyn i annog ysgolion lleol, meithrinfeydd a’r gymuned i helpu i fywiogi’r dref.
Syniad Judi Greenwood oedd hwn, rheolwr prosiect MTT a oedd yn teimlo bod angen i’r ffenestri siopau gwag gael eu goleuo ar gyfer y Nadolig.
Meddai Judi: Yn union fel unrhyw dref arall, mae gan Fae Colwyn nifer o siopau manwerthu gwag. Gyda gweddill y siopau yn gwneud cymaint o ymdrech gyda’u ffenestri Nadolig roeddem yn teimlo bod angen goleuo’r siopau gwag hefyd. Felly, aethom ati i ofyn i nifer o ysgolion a grwpiau cymunedol i feddwl am syniadau am sut y gallem lenwi’r ffenestri gwag hynny. Roedd yr ymateb a gawsom yn hollol wych. Gwnaethom lwyddo i lenwi naw ffenestr siop gyda phopeth o olygfa’r Geni a wnaed gan blant o Ysgol St Joseph i arddangosfa gelf gan artistiaid lleol. Roedd wir yn wych sut wnaeth pawb dynnu at ei gilydd.”
Tynnwyd lluniau o’r holl ffenestri a chreodd MTT Gystadleuaeth Facebook lle gofynnwyd i bobl bleidleisio dros eu hoff ffenestr. Yr enillwyr oedd Meithrinfa Springfield a lenwodd eu ffenestr gyda phrintiau dwylo wedi’u paentio a gafodd eu gwneud yn eitemau yn ymwneud â’r Nadolig.
Plant o Feithrinfa Springfield a enillodd y gystadleuaeth Ffenestr Nadolig Cymunedol fel a bleidleisiwyd gan y cyhoedd.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl