Colwyn Bay THI

Ymweliad â Belper

March 13, 2015

Ar ôl llwyddo i ennill yng nghategori Stryd Fawr Arfordirol y Flwyddyn 2014 yng Ngwobrau cyntaf Stryd Fawr y Flwyddyn, estynnwyd gwahoddiad i Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn ynghyd ag eraill i Belper, y dref a enillodd y categori Marchnad ac enillydd cyffredinol y gwobrau.

Rhoddodd Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn gyflwyniad ochr yn ochr â swyddogion eraill yn arddangos y gwaith arloesol a gwaith partneriaeth sy’n cael ei wneud yn y dref, clywyd am gynlluniau sydd gan drefi eraill ar waith a llwyddwyd i rannu arfer da ac awgrymiadau gydag eraill a fu’n fuddugol yn y gwobrau.

Cawsom daith o’r dref i orffen ein hymweliad a dysgu sut y cafodd sinema lleol ei hadfywio, sut y cyfrannodd siopau bwyd arbenigol a siopau llyfrau a galerïau at stryd fawr fywiog, a cawsom gyfle i edmygu’r blaen siopau traddodiadol sydd wedi manteisio o Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Belper.

dsc01900dsc01884dsc01868

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi