Colwyn Bay THI

Sgiliau Adeiladu Traddodiadol ar gyfer Adferwyr Lleol

April 6, 2013

Un o heriau adfer adeiladau treftadaeth yw sicrhau cyfanrwydd y prosesau adeiladu eu hunain. Dyna pam bod Menter Treftadaeth Treflun (MTT) Bae Colwyn wedi ymuno â Menter Treftadaeth Treflun Caergybi yn ogystal â’r Ganolfan Adeiladu Naturiol yn Llanrwst i ddarparu cyrsiau addysgu sgiliau crefft traddodiadol.

Roedd y cyrsiau yn llwyddiant mawr gyda 34 o bobl o’r ardal leol yn dysgu am atgyweirio ffenestr codi, codi waliau cerrig, toi, pwyntio calch a gweithio gyda phlwm.

Roedd Rheolwr Prosiect MTT Bae Colwyn, Judi Greenwood wrth ei bodd gyda chanlyniadau’r prosiect. Meddai:

“Mae’n hanfodol nad yw’r sgiliau adeiladu treftadaeth hyn yn cael eu colli. Roedd yn braf bod gennym hefyd benseiri a syrfewyr ar y cyrsiau ynghyd â’r contractwyr.

“Oherwydd bod cymaint o adeiladau hanesyddol ym Mae Colwyn mae cadw’r sgiliau hyn yn fyw yn allweddol i gadw ein treftadaeth adeiladu.”

Web-traditional-Skills-CB-THI

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi