October 25, 2013
Cynhelir digwyddiad cymorth busnes un diwrnod yn Venue Cymru ddydd Mercher 6 Tachwedd rhwng 10am a 3.00pm.
Bydd y digwyddiad yn gweld cyfres o weithdai gan gynnwys Rheoli Salwch ac Absenoldeb, Cyfryngau Cymdeithasol, Deall Arfer Da a Meddwl yn Greadigol a Beirniadol. Mae’r digwyddiad wedi ei anelu at bobl hunangyflogedig, entrepreneuriaid newydd, microfusnesau a mentrau cymdeithasol.
Bydd cymorth a chyngor hefyd ar gael gan Ymddiriedolaeth y Tywysog, Chwarae Teg, HSBC, Coleg Llandrillo, Drysau Agored, Busnes Cymru ymhlith nifer o rai eraill.
I archebu gweithdy (gweler y manylion ar y poster isod) cysylltwch â margaret.evans@rhylcitystrategy.co.uk neu ffoniwch 01745 343 605
Mae hefyd rhagor o wybodaeth ar www.facebook.com/EnterprisingSolutions
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl