Colwyn Bay THI

Siop trin gwallt ar ei newydd wedd

October 15, 2016

Mae Mane Attraction, a leolir ar ffordd Sea View wedi bod yn nodwedd ar y stryd ers degawdau ac nawr mae wedi manteisio ar grant gan Fenter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn i ailwampio tu blaen yr adeilad. Mae’r blaen siop sydd wedi’i lleoli o fewn ardal Menter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn yn rhan o deras sydd wedi bod yno ers dros ganrif. Bydd y gwaith yn cynnwys gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol, yn ogystal â newid y blaen siop modern gyda blaen siop traddodiadol priodol. Byddwn yn dangos lluniau ar ôl cwblhau’r gwaith.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi