October 21, 2016
Ar ddydd Llun, 17 Hydref, roeddem yn falch o dderbyn gwahoddiad gan 5 Awgrym Llesol i roi sgwrs am Fenter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn fel rhan o’r bore treftadaeth ar gyfer aelodau grŵp Caffi Conwy.
Rhoddodd Katherine Duta sgwrs a oedd yn cynnwys amcanion Menter Treftadaeth Bae Colwyn, beth mae’r prosiect wedi’i gyflawni hyd yma a throsolwg o’r adeiladau a pham eu bod yn bwysig i dreftadaeth y dref. Roedd y grŵp wedi mwynhau sgwrs gan Helen Jackson o 5 Awgrym Llesol hefyd am hanes Bae Colwyn a sgwrs arall gan Kathy Barham am Book of You, offeryn ar-lein i helpu rhai gyda Dementia.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl