Colwyn Bay THI

Sgwrs i Gymdeithas Trigolion Hen Golwyn

May 13, 2015

Fe gafodd Judi Greenwood, Rheolwr Prosiect Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn a Katherine Dutta, Cynorthwyydd Prosiect Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, y cyfle i ymweld â Chymdeithas Preswylwyr Hen Golwyn dydd Mercher 13 Mai, gan siarad am Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn. Ymhlith y pynciau a drafodwyd roedd amcanion cychwynnol y prosiect, ardal yr eiddo sy’n gymwys am grantiau, y cynnydd y mae’r prosiect wedi ei wneud hyd yma a sut mae un prosiect pwysig wedi ei gwblhau gydag un arall yn mynd yn ei flaen a gwybodaeth am y prosiectau adeiladu a chymunedol eraill y mae Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn wedi eu hysgogi.

Roedd swyddogion y prosiect wedi mwynhau ymweld â’r grŵp, gan ateb cwestiynau gan aelodau’r grŵp a thrafod y potensial ar gyfer y dref yn y dyfodol.

Hoffai Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn ddiolch i Gymdeithas Preswylwyr Hen Golwyn am y gwahoddiad a’r cyfle i siarad gyda’i haelodau.

dsc05010

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi