December 11, 2016
Yr wythnos ddiwethaf, ddydd Gwener 2 Rhagfyr, cynhaliodd Bae Colwyn ei drydydd digwyddiad Nadoligaidd blynyddol, a ddenodd gannoedd i lenwi strydoedd canol y dref.
Gan adeiladu ar lwyddiant ymweliad lori Coca-Cola y llynedd, eleni fe gafwyd atyniadau ffair fach, stondinau bwyd, dychwelodd Siôn Corn a’i geirw i ymweld â phlant lleol ac roedd cerddoriaeth fyw gan y Ghostbuskers.
Roedd atyniadau newydd yno hefyd fel mulod Nadoligaidd, hen gerbydau a glôb eira lle roedd modd i bobl ddringo i mewn iddi a chael llun mewn gwlad o eira.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl