Colwyn Bay THI

Arweinydd Brownis lleol yn ennill gwobr Geidiaid mawreddog

December 7, 2016

Cynhaliodd Katie Dutta, Arweinydd gyda 3ydd Brownis Hen Golwyn noson i ddathlu yn ddiweddar gyda’i huned Brownis i nodi cyflawni gwobr uchaf bosibl y Geidiaid, sef Gwobr Geid y Frenhines.

Cafodd y wobr ei chreu yn 1946 ac mae dros 22,000 o ferched wedi cwblhau’r wobr ers iddi gael ei chreu.

Bu Katie yn gweithio tuag at y wobr dros dair blynedd, gan gwblhau cyfres o dasgau; roedd y rhain yn cynnwys dysgu Crefft Ymladd fel sgil newydd, cynllunio a chynnal fforiad pedwar diwrnod o Dreftadaeth Ddiwydiannol Manceinion, gan ennill trwydded Mynd i Ffwrdd trwy drefnu penwythnos i ffwrdd i’w Brownis, a dylunio bathodyn Her Treftadaeth Geidiaid a gefnogwyd gan Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn.

Roedd Katie wedi gwahodd pobl a oedd wedi ei helpu i ennill y wobr, gydag arddangosfa i ddangos popeth a wnaeth i gwblhau’r wobr, a chafodd gacen arbennig a wnaed i ddathlu’r achlysur.

Bydd Katie yn mynychu cyflwyniad swyddogol ym Mhalas Westminster ym mis Mehefin, lle bydd yn cyfarfod ag eraill fydd yn derbyn y wobr, a bydd yn derbyn ei bathodyn Gwobr Geid y Frenhines yn swyddogol gan y Prif Geid, Valerie Le Valliant.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi