Colwyn Bay THI

Dyddiau Masnachu Olaf

December 22, 2016

dsc_0023

Y penwythnos hwn fydd dyddiau masnachu olaf Marchnad Cynnyrch Conwy Naturiol.

Roedd hon yn ymdrech wych ar y cyd, gyda’r siop yn cael ei rheoli gan Gonwy Naturiol a chasgliad o gynhyrchwyr bwyd lleol, gyda Chynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn a Chymunedau yn Gyntaf yn hwyluso a chefnogi’r fenter. Cafodd y siop ei sefydlu yn 24 Heol yr Orsaf, cafodd yr uned Siop Dros Dro ei gweithredu gan Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, a chafodd ei haddasu i adlewyrchu’r amgylcheddau lle daeth y bwyd, gyda ffabrig hesian yn gorchuddio’r waliau a bwyd yn cael ei arddangos ar fêls gwair! Yn ystod ei denantiaeth ym Mae Colwyn, roedd y siop hefyd yn denu sylw gan y teledu, papurau newydd a radio.

Agorodd y siop ar 9 Medi, gyda 14 o gynhyrchwyr bwyd yn gweithio gyda’i gilydd i weithio yn y siop a gwerthu eu bwyd, y cyfan yn cael ei wneud yn sir Conwy, ac am y pedwar mis agorwyd eu drysau i’r cyhoedd bob dydd Gwener a dydd Sadwrn.

Dros y pedwar mis, roedd siopwyr lleol ac ymhellach i ffwrdd yn ymweld â’r siop, ac roedd cynhyrchwyr yn cynnal digwyddiadau gyda’r nos i arddangos eu nwyddau i fusnesau lleol a chodi proffil bwyd lleol o safon sydd ar gael. Roedd Siôn Corn hefyd wedi ymweld â’r siop yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn y groto yng nghefn y siop.

Mae yna dal amser i brynu bwyd Nadolig munud olaf. Bydd y siop ar agor dydd Gwener 23 a Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr. Ewch i https://www.facebook.com/naturallyconwy/ am y wybodaeth ddiweddaraf.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi