Colwyn Bay THI

Diwrnod Ysbrydoli’n Cynnau’r Dychymyg

August 10, 2016

Roedd yn ddiwrnod hyfryd ar gyfer y Diwrnod Ysbrydoli’r wythnos ddiwethaf! Ddydd Gwener 5 Awst cynhaliodd Gŵyl ‘Cymerwch Ran’ Ddiwrnod Ysbrydoli ym Mae Colwyn.

Mae Diwrnodau Ysbrydoli yn ddulliau gwych o uno cymunedau, gyda chyfres o weithgareddau am ddim a diwrnodau perfformiad ar draws Conwy mewn cydweithrediad â Chynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Llywodraeth Cymru a Chymunedau yn Gyntaf.

Roedd thema Fictoraidd i Ddiwrnod Ysbrydoli Bae Colwyn ac roedd yr holl gyfranogwyr wedi mwynhau’n fawr! Roedd yr ymwelwyr wedi mwynhau gemau Fictoraidd, perfformwyr stryd a sioeau ar Ffordd yr Orsaf yng nghanol y dref. Cyfrannodd Cwmni Theatr Pigtown, wedi’i leoli ym Mochdre, i’r diwrnod hefyd; mae Pigtown yn gweithio mewn partneriaeth gydag elusennau a’r gymuned i ddarparu sesiynau drama sy’n datblygu sgiliau newydd a phrosiectau eraill. Holodd Pigtown yr ymwelwyr ynglŷn â’u hatgofion o’r ardal; roedd pobl wedi mwynhau clywed eu hatgofion, a’u hysgrifennu ar swigen siarad enfawr!

Roedd sawl sefydliad arall yn rhan o’r diwrnod; roedd Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn yn bresennol i siarad am dreftadaeth Fictoraidd y dref, cynhaliodd Llyfrgell Bae Colwyn sesiynau adrodd straeon drwy’r dydd a darparodd Theatr Colwyn popgorn a chynnal sesiynau ffotograffiaeth Fictoraidd lle’r oedd pobl yn cael cadw eu llun Fictoraidd (polaroid) fel cofrodd o’r diwrnod!

Roedd yn wych gweld Ffordd yr Orsaf yn llawn stondinau a phethau i’w gwylio neu i gymryd rhan ynddynt. Roedd nifer wedi mwynhau’r cyfle i gymryd rhan yn yr ystod o weithgareddau oedd ar gael, a llawer wedi mwynhau’r adloniant oedd ar gael.

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi