Colwyn Bay THI

Ardal Gwella Busnes Colwyn (AGB)

November 10, 2015

Cyfle unigryw i Fusnesau Colwyn

audience500pixels

Cafodd busnesau a oedd yn bresennol yn lansiad cynnig a chynllun busnes Colwyn ar gyfer yr AGB ym Mharc Eirias yr wythnos diwethaf glywed Chris Jackson, Cadeirydd Dros Dro Grŵp Llywio AGB Colwyn yn sôn sut y mae’r cynllun hwn yn gyfle cyffrous i fusnesau ddylanwadu ar faterion allweddol yn yr ardal.

Dywedodd Chris Jackson, “Mae hwn yn faes unigryw ac yn gyfle unigryw. Mae’r prosiectau a amlinellir yn y cynnig ar gyfer yr AGB wedi cael eu dynodi gan fusnesau’r ardal fel rhai sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w busnes. Rydw i’n annog pawb i fanteisio ar hyn ac i bleidleisio Ydw ym mhleidlais yr AGB.”

Gallwch weld y cynnig llawn ar gyfer yr AGB a’r Prosbectws ar-lein yn http://www.colwynbid.co.uk/cy/bid-proposal/

Llandrillo yn Rhos, Hen Golwyn, Bae Colwyn a Mochdre

bid-map500pixels

“Mae’r ffaith bod y pedair ardal yn cael eu cynrychioli yn yr AGB hwn yn ei wneud yn unigryw yn y Deyrnas Unedig,” meddai Ian Ferguson o pfbb UK, Ymgynghorwyr AGB ar gyfer AGB Colwyn.

Dywedodd Maggie Bradley o Red 16 Café yn Llandrillo-yn-Rhos a Chadeirydd Cymdeithas Masnachwyr Llandrillo-yn-Rhos “Dw i wedi fy nghyffroi’n arw gan yr AGB. Mi fydd yn ein helpu i wella’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr yn Llandrillo yn Rhos a chreu cysylltiadau cryfach gyda’r ardaloedd eraill, sy’n golygu y bydd ymwelwyr yn aros yn hirach ac yn gwario mwy!”

Mae’r cynnig ar gyfer yr AGB yn cynnwys prosiectau penodol ar gyfer pob un o’r pedair ardal yn ogystal â bod pob ardal yn elwa ar brosiectau mwy o faint sy’n cael eu rhannu megis arwyddion a pharcio.

Cadwch lygad am eich papur pleidleisio

Mae Teresa Carnall o TBC Marketing a Chadeirydd Rhwydwaith Busnes Bae Colwyn yn atgoffa pawb i gadw llygad am eu papur pleidleisio.

“Byddant yn cael eu hanfon yn y post i’r cyfeiriad lle byddai eich bil trethi busnes yn cael ei anfon fel arfer. Os ydych wedi eich lleoli mewn cyfeiriad gwahanol cofiwch fynd ar drywydd y papur pleidleisio a gwnewch yn siŵr bod modd i chi ddylanwadu ar y bleidlais drwy roi tic yn y blwch Ydw a dychwelyd y papur pleidleisio”.

Rhaid dychwelyd y papur pleidleisio wedi’i lenwi yn ddim hwyrach na 5pm dydd Iau 26 Tachwedd.

Rhifyn 4 Tachwedd 2015

AGB Bae Colwyn

Eich Ardal Gwella Busnes

i gael rhagor o wybodaeth neu i gael gwybod sut i gymryd rhan cysylltwch â Jackie Thomas ar 01492 577680 neu anfonwch e-bost at info@colwynbid.co.uk

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi