October 2, 2015
Rydym ni’n falch o gyhoeddi bod Chrissy Smith, sy’n rhedeg The Lost Sheep Company, wedi ei henwebu ar gyfer gwobr Arwr Stryd Fawr Bae Colwyn!
Chrissy oedd un o’r masnachwyr cyntaf i gael lle yn y Siop Dros Dro yn 24 Ffordd yr Orsaf pan agorodd, ac ar ôl blwyddyn y fasnachu llwyddiannus symudodd Chrissy rownd y gornel i 20 Ffordd Conwy i agor ei siop ei hun.
Mae The Lost Sheep Company yn gwerthu cynnyrch gwlân defaid brodorol prin wedi eu gwneud gan Chrissy ei hun ochr yn ochr â chynnyrch gwau a nyddu eraill. Mae’r siop hefyd yn ganolbwynt i bobl ddod i ddysgu technegau gwau a gwehyddu gan Chrissy mewn gweithdai un-i-un a dosbarthiadau mwy o faint.
Mae Chrissy hefyd wedi dechrau prosiect treftadaeth lle mae pobl yn cael eu hannog i rannu eu straeon am edafedd a’r ardal leol.
Yr enwebeion eraill yw The Bay Gallery, Bargain Booze a Subway, Colwyn Bay Pet Shop, Matthews and Son Hardware, Alpha Business Centre Ltd a Swyddfa Bost Ffordd Conwy.
Gallwch bleidleisio drwy nôl copi o’r Pioneer ac anfon yn y ddalen bleidleisio i swyddfeydd y Pioneer.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl