October 10, 2014
Mae Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn, a sefydlwyd fel offeryn i hyrwyddo treftadaeth leol yn frwd, wedi derbyn grant gan Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn i dalu am ddeunyddiau hyrwyddo ac i ddatblygu eu gwefan bresennol.
Sefydlwyd Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn yn 2009, gyda’r nod o wneud treftadaeth a hanes lleol yn hygyrch i bawb a hysbysu mwy o bobl amdano. Mae’r grŵp wedi cymryd rhan mewn gwaith eirioli ar gyfer henebion ac adeiladau lleol, gweithio gyda phartneriaid ar lwybr cod ymateb cyflym ym Mharc Eirias a chynhyrchu llyfrynnau Teithiau Cerdded Treftadaeth ar gyfer Bae Colwyn a Hen Golwyn.
Crëwyd y wefan yn 2012 ac mae cyfoeth o wybodaeth a dolenni at fwy o wybodaeth wedi cael eu gosod ar y wefan.
Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i wneud y wefan yn haws i’w defnyddio a’i haddasu fel bo modd ei gweld yn hawdd ar unrhyw fath o declyn digidol, diweddaru delwedd y wefan a datblygu llinell amser er mwyn arddangos hanes yr ardal mewn modd rhyngweithiol a diddorol.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl