February 10, 2015
Mae Clwb Coffi Treftadaeth Bae Colwyn yn cyfarfod ddydd Mawrth olaf pob mis o 10.30am tan 12.30pm yn Llyfrgell Bae Colwyn. Mae’r cyfarfodydd a’r lluniaeth yn rhad ac am ddim, ac mae’r clwb fel rheol yn cyfarfod yn ystafell gyfarfod 3 i fyny’r grisiau.
Mae’r cyfarfodydd yma’n gyfle i gwrdd â Thîm Menter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn, derbyn gwybodaeth am ddatblygiadau treftadaeth ym Mae Colwyn a pha brosiectau y mae’r tîm yn gweithio arnynt. Mae hefyd yn gyfle i chi sgwrsio â phobl eraill sydd â diddordeb mewn treftadaeth. Ar ben hyn, mae yna lyfrau a chyfrifiaduron ar gael i chi ddechrau eich gwaith ymchwil eich hun ar dreftadaeth leol.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl