November 25, 2016
Mae digwyddiad Nadolig blynyddol Bae Colwyn wedi’i gadarnhau sef dydd Gwener, 2 Rhagfyr. Gan adeiladu ar lwyddiant Gŵyl Cyfnos yn 2014 ac ymweliad y llynedd gan y tryc Coca Cola mawr coch, bydd yna adloniant am ddim ar thema’r Nadolig o amgylch canol y dref, a bydd siopau lleol yn ymestyn eu horiau agor ar gyfer siopa hwyr. Wedi’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Bae Colwyn a Siambr Fasnach Bae Colwyn, mae’r adloniant yn cynnwys jyglwyr, cerddwyr ar stiltiau ac wrth gwrs Siôn Corn a’r ceirw ac mae’n dechrau am 3pm. I gadw i fyny gyda’r cyhoeddiadau, dilynwch @DigwyddiadauConwy ar Facebook a Twitter.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl