March 14, 2015
Y penwythnos diwethaf, cynhaliwyd yr Ŵyl Geltaidd yng nghanol Bae Colwyn.
Roedd yr ŵyl yn cynnwys sawl sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd; cafodd ei gefnogi gan Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, Cyngor Tref Bae Colwyn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bywyd y Bae, Cerddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE, Cymunedau yn Gyntaf a Llywodraeth Cymru.
Cynigiwyd crefftau Celtaidd lle gallai’r plant greu darlun o ddraig, roedd cerddoriaeth a pherfformwyr i ddiddanu’r dorf, ffilmiau am ddim mewn sawl lleoliad a stondinau yn gwerthu crefftau, anrhegion a bwyd, ac roedd hefyd yn bosibl i bobl wylio pêl-droed Gwyddelig a mynd i Ceilidh ar y nos Sadwrn!
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl