July 14, 2014
Daeth deiliadaeth tenantiaid cyntaf y Siop Dros Dro, yn 24 Ffordd yr Orsaf, i ben yn ddiweddar.
Syniad Chrissy Smith oedd ArtMuse, a dyma ei menter gyntaf fel masnachwr. Gweuwraig yw Chrissie, ac mae wedi datblygu’r cariad sydd ganddi at wlân i fusnes llwyddiannus lle gall pobl brynu gwlân a chael gwersi i wella eu sgiliau gwau. Mae Chrissy’n eiriol crefftau treftadaeth ac mae wedi cychwyn gwneud cysylltiadau gyda ffermwyr Cymreig er mwyn gallu gweithio gyda gwlân prin Cymreig.
Mae MAST yn gasgliad o artistiaid sydd wedi dod at ei gilydd i wneud y mwyaf o’r cyfle i fasnachu. Yn ystod eu cyfnod yn y siop, cynhaliwyd dosbarthiadau yng ngofod gweithdy arbennig y siop, a gwerthwyd nifer o eitemau, celf a chreff a wnaed â llaw.
Cafodd y ddau denant gyfnod llwyddiannus yn y siop, gydag artistiaid MAST yn gallu cymryd yr adborth o’r siop i wella eu busnesau, a bydd Chrissy Smith o ArtMuse yn aros ymlaen yn y siop er mwyn datblygu ei busnes ymhellach.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl